Bethel a Seion

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanddeiniolen

Cais Am Gymorth Ariannol

Mae Cyngor Cymuned Llanddeiniolen yn cydnabod ac yn cefnogi’r cyfraniad gwerthfawr a wneir gan lawer o grwpiau gwirfoddol a sefydliadau ym meysydd chwaraeon, celf, diwylliant, gofal cymdeithasol, gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, yr henoed a phobl ag anableddau a llawer o rai eraill sy’n cyfrannu at les y gymuned. Y bwriad wrth ddyrannu cymorth ariannol yw gwella ystod o wasanaethau a gweithgareddau lleol.

Bydd y Cyngor yn ystyried rhoi cymorth ariannol cymunedol, nad ydynt am elw ac y mae eu haelodaeth a maes gweithgaredd o fudd i drigolion Llanddeiniolen.

Cyllideb cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer rhoddion ac fe fydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau ym mis Hydref yn mhob blwyddyn, gyda y ceisiadau i law y clerc erbyn Medi 20fed, ac 30ain Ebrill ar gyfer ceisiadau Eisteddfod yr Urdd.

Bydd angen copi o’ch cyfrifon diweddaraf (gan gynnwys manylion unrhyw gyfrif wrth gefn) neu Fantolen Ariannol Gyfredol wedi eu ardystio.

Pe byddech yn llwyddiannus, byddai disgwyl i chi roi gwybod i’ch aelodau am gefnogaeth y Cyngor a bydd disgwyl adroddiad ar sut y bu i chi wario’r arian.

Defnyddiwch y Ffurflen yma, os gwelwch yn dda.

Cliciwch yma am ddogfen Canllawiau Cais Ariannol.

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Llanddeinolen

Cliciwch yma am ddogfen cyfarfod blynyddol

Clerc a Swyddog Ariannol: Eleri Bean, Bwthyn Isaf, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd LL55 3LS
Ffôn: (01286) 871 757 e-bôst: clerc@cyngorllanddeiniolen.cymru