Bethel a Seion
Lleolir pentref Bethel ar ffin ddeheuol Plwyf Llanddeiniolen ar wastatir y plwyf. Yn
naturiol felly bu’r cysylltiad amaethyddol yn gyson o ddyddiau’r tir comin i
berchnogaeth Stad y Faenol drwodd i berchnogaeth unigol erbyn hyn. Tir corslyd sy’n
amlygu’r ffin â phlwyf Llanfair-is-gaer a chwmwd y Felinheli i’r de.
Bu cysylltiad gref hefyd â Chwarel Dinorwig fel gweithle i drigolion Bethel. Roedd
rheilffordd y chwarel â gludai’r llechi i’r porthladd yn y Felinheli yn pasio trwy’r
pentref, er bod y cledrau wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Serch hynny saif Pont Charlie
dros y trac o hyd a defnyddir y bont fel logo o hyd i gynhyrchioli rhai o fudiadau’r
pentref.
Hyd at 30au’r ganrif ddiwethaf rhannwyd Bethel yn ddwy ran sef Saron a Bethel.
Rhwng y ddau glwstwr o dai roedd caeau gleision . Yn wir soniwyd am ‘blant Saron’
yn mynd ar wyliau i ‘tŷ nain ym Methel’. Gyda adeiladu’r stadau cyngor Y Cremlyn a
Bro Rhos llanwyd y bylchau ac o’r 1970au ymlaen adeiladwyd sawl stad arall. Mae’r
datblygiadau hyn yn amlwg oherwydd agosatrwydd Bethel i’r ddau man gwaith
mwyaf yr ardal sef Caernarfon (4 milltir) a Bangor (7 milltir).Cyswllt manteisiol
arall yw agosatrwydd y pentref (3 milltir) at brif ffordd y gogledd yr A55.
Cymaint fu’r datblygiad fel bod ychydig dros 1000 o enwau ar Restr Etholiad ward
Bethel erbyn hyn.
Y mae Ysgol Gynradd Gymreigaidd iawn ei naws gyda rhyw 150 o ddisgyblion erbyn
hyn. Mae’r Ysgol yn ffwlcrwm i sawl gweithgaredd, ac yn derbyn adroddiadau
safonol iawn gan ymchwilwyr.
Ar ddechrau’r 20ed ganrif y tueddiad oedd mynychu ysgolion Uwchradd Caernarfon
ar gyfer addysg uwchradd, ond gyda symud Ysgol Uwchradd Brynrefail o Frynrefail i
Lanrug, yno mae mwyafrif llethol o blant Bethel yn mynychu bellach.
Ar ddechrau’r 20ed ganrif roedd sawl siop a gweithdy ym mhentref Bethel. Erbyn
heddiw dim ond un mangre geir, a hynny yw Siop/Post y pentref. Dyma fangre
fywiog yn llawn sgwrs a gwasanaeth. Ond, mae sawl man masnachol yn y pentref.
Yma lleolir canolfan Ceir Cymru dan arweiniad Gari Wyn. Hefyd Garej Alun
Foulkes.Yn y pentref mae busnes loriau Harri Owen a Delsol. Y mae nifer o’r
trigolion wedi sefydlu eu busnesau unigol ac mae’r pentref yn ffodus i gael
gwasanaeth sawl saer maen, saer coed, plymar a thrydanwyr.
Yng nghanol y pentref mae tafarn Y Bedol. Edrychir ymlaen i’w hail agor i greu
canolfan gymdeithasol i’r ardal. Milltir allan o’r pentref mae tafarn hynafol y Gors
Bach, ac yma gellir blasu bwyd – a pheint – o safon.
Ar hyn o bryd ceir tri chapel yn y pentref – Y Cysegr (Presbyteriaid), Bethel
(Annibynwyr) a Saron (Wesleaidd). Milltir tu allan i’r pentref mae Eglwys Sant
Deiniol sef eglwys y plwyf. Yma hefyd mae prif fynwent yr ardal.
Wedi derbyn grantiau, erbyn hyn mae Neuadd Goffa lewyrchus yn y pentref. Mae yn
gartref i sawl mudiad, yn enwedig ymysg yr ieuenctid. Mae Clwb Ieuenctid, Aelwyd
yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ifanc, Clwb Snwcer a Chlwb Bowlio dan –dô. Yma hefyd
cynhelir Eisteddfod Ieuenctid lewyrchus yn flynyddol.
Hefyd yn y pentref mae Cylch Ti a Fi, Merched y Wawr, Cymdeithas Lenyddol
Undebol a Chlwb Bro Bethel ar gyfer y Pensiynwyr.
Bu clwb pêl-droed oedolion yma dros gyfnodau, ond ar hyn o bryd timau ieuenctid i
fechgyn a genethod sy’n chwarae ar Faes Coed Bolyn.
Ar gyrion y pentref yn y Crawia mae pencadlys a deorfa Cymdeithas Bysgota Seiont,
Gwyrfai a’r Llyfni ac mae nifer o’r pentrefwyr ymysg y swyddogion ac aelodaeth.
Y prif atyniad erbyn hyn yw Canolfan Gelligyffwrdd (Greenwood Centre). ger
Cornel Sipsiwns hanner milltir i lawr y ffordd o’r Gors Bach. Mae’r ganolfan yn
croesawu dros 50 000 o ymwelwyr yn flynyddol.
Bu traddodiad ddiwyllianol gref ym Methel dros y blynyddoedd. Bu ambell gôr yma,
ac heddiw mae nifer o’r trigolion yn aelodau o gorau cyfagos.
Yng Ngorffwysfa, Saron y ganwyd W. J. Gruffydd yr ysgolhaig, bardd a beirniad
llenyddol. Erys ei gyfrol Hen Atgofion yn glasur o ddatblygiad cynnar pentref Bethel
ei thrigolion a chymeriadau. Ym Mharc Wern ganwyd y Prifardd Selwyn Griffith a fu
hefyd yn Archdderwydd ac awdur toreithiol o lenyddiaeth plant. Bu hefyd yn Glerc i’r
Cyngor Cymuned am dros 40 mlynnedd. Un o weinidogion cynnar Capel Bethel oedd
yr amryddawn Rhys J. Huws a sefydlodd yr Eisteddfod Blant ryfeddol a osododd y
sylfaen yn ddiweddarach i Eisteddfod yr Urdd.
Ie, pentref sy’n dal i ddatblygu yw Bethel, ond iddi ei chymeriad croesawgar.