Dinorwig a Fachwen

image

Yn cysylltu Deiniolen a Dinorwig mae Gallt y Foel sy'n dod â ni at gyrrion cymuned Dinorwig at linell y mil troedfedd sydd yn ein harwain at gwr ucha'r Chwarel ei hun. Y mae'n werth gwneud hynny. Yma fel yn Neiniolen, gwelwyd cynnydd sydyn yn y boblogaeth oherwydd y Chwarel a gwelir heddiw, ar hyd y llethrau llwm, adfeilion o'r hen fythynnod a chant a mil o waliau cerrig yn britho'r tiriogaeth. I mi, Dinorwig yw'r lle gorau i weld yr Wyddfa. Wrth gerdded o Fwlch Gallt y Foel gyda Craig y Bigil ar y dde a dynesu at rhes o dai Maes Eilian, mae'r Wyddfa fel cawr gosgeiddig a balch yn rhythu arnoch gyda phentref LLanberis, llynnoedd Padarn a Peris, a Chastell Dolbadarn yn swatio'n dawel islaw. Mae'r awel yn finiocach yn Ninorwig wrth gymharu â Deiniolen a gwn o brofiad fod eira'r Gaeaf yn fwy trwchus. Yr unig sŵn a ddaw i'r clyw yw sŵn y trenau sy'n cludo teithwyr i ben yr Wyddfa ac ar hyd Llyn Padarn ac yn ddi-feth sŵn yr hofrennydd Achub uwchben. Yma mae Capel Sardis, Achos y Bedyddwyr ac i'w weld trowch i'r chwith ger Ty'n y Fawnog nepell o stad Bro Elidir ac mewn dim i fyny'r allt fe'i gwelwch ar ucheldir y mynydd yn nannedd y ddrycin. Agorwyd y Capel presennol yn 1837, y capel uchaf yng Nghymru ond rhai wythnosau yn ôl mynegwyd ei fod yn cau. Eisoes daeth Achos y Presbyteriaid ac Eglwys St.Mair i ben-Y Capel yn uned gwyliau moethus a'r Eglwys yn annedd gwyliau. Ewch i'r dde i lawr yr allt yn Ty'n y Fawnog ac fe ddowch at Gapel Dinorwig ond rhaid oedi gerllaw y Tŷ Gweinidog gynt (heddiw Bryn Myfyr) i weld cerfiad o'r enw "Puleston" ar garreg yn yr ardd. Puleston oedd enw canol y Parch. John Puleston Jones y Gweinidog dall a ddaeth i Ddinorwig yn 1895 gan wasanaethu am ddeuddeng mlynedd. Er yn ddall, ef a gerfiodd ei enw ar y garreg a hynny yn berffaith; gadawodd ei ôl yn ddofn hefyd ar gymunedd Dinorwig. Cau fu hanes yr Eglwys fach a fynychwn ac ymchwiliaf ar hyn o bryd i hanes ei chloch a aeth tua trigain mlynedd yn ôl i Lusaka, Zambia. Caewyd Ysgol Dinorwig a daeth wedyn yn Ganolfan yr ardal ond bellach mae yno gaffi a lle i aros dros nos. Er fod trychinebau mawr a bach yn y Chwarel gerllaw yn ddigwyddiadau cyfarwydd oherwydd natur y gwaith digwydodd y drychineb fwyaf un a ddaeth i ran trigolion Dinorwig pan aeth trip yr Ysgol Sul ar Sadwrn, Gorffennaf 1af, 1899 i dref Pwllheli. Trodd y wibdaith bleserus flynyddol yn hunllef pan foddwyd naw plentyn a thri o oedolion pan ddymchwelodd cwch rhwyfo bleser ym Mae Ceredigion, filltir o South Beach, Pwllheli. Roeddent oll o Ddinorwig sef teulu cyfan o Ty'n y Fawnog sef y rhieni Owen ac Ellen Thomas a'r plant Elen (10 oed) Owen Parry (3 oed) a William Edward (6 oed) o Ty Ddewi (safle yr hen Bost) y tad John Hughes a'r plant John Rowland (12 oed) Ellen (6 oed) a Catherine Ann (10 oed) o Tan y Bwlch y brodyr Richard (15 oed) aThomas Hughes (12 oed) ac o Bron Elidir (wrth odre'r Chwarel) Charles Davies (13 oed) Claddwyd unarddeg ohonynt mewn cynhebrwng enfawr ar ddydd Iau Gorffennaf 6ed, 1899 yn Eglwys LLandinorwig gan eu rhoi mewn beddau yn y fynwent. Dydd Mawrth Gorffennaf 11eg claddwyd yr olaf sef John Rowland Hughes y daethpwyd o hyd i'w gorff yn ddiweddarch. I gofio canmlynedd y trychineb ar Orffennaf 1af 1999 daeth cannoedd i Eglwys LLandinorwig ac yno cyflwynwyd y llyfr "Pêl Goch ar y Dwr" (Gwasg Carreg Gwalch) sy'n adrodd yn llawn am y drychineb fwyaf un ddaeth i gymdogaeth Dinorwig. Cyrchfan poblogaidd heddiw yn Ninorwig hediw yw yr Allt Ddu (pen pellaf y gymuned) Yno medrwch gychwyn ar y daith i'r Chwarel a hynny at yr wylfan i ryfeddu at y golygfeydd; edrych ar y gofeb i'r Chwarelwyr a noddwyd gan aelodau o Glwb Orwig eistedd ar y fainc neu ddwy i weld golygfa arbennig o Ddinorwig a cherdded i weld cymuned Pen Draw a Parc Padarn ac os yn heini cerdded y llwybr trwy'r coed gan droi i gael golwg ar y Barics sef nifer o dai lle yr arferai chwarelwyr o bellter ffordd fyw a chysgu, yn enwedig Sir Fon, yn ystod yr wythnos; ac ar hyd y LLwybr Main hyd yr Amgueddfa Lechi. Gerllaw hen Ysgol Dinorwig mae'r allt yn mynd a chwi i lawr Y Fachwen-yn sicr un o'r ffyrdd godidocaf ei golygfeydd yng Nghymru. Cofiaf pan yn blentyn am siop y Padarn Stores a Swyddfa'r Post yn ogystal â Chapel ac roedd amryw o'r gerddi yn le da i ni blantos ddwyn eirin ac afalau. Roeddwn yn gyfarwydd â llawer o'r aelwydydd ar hyd y Fachwen megis Chwarel Goch, Tŷ Coch, Garnedd Wen, Bryn Bela, Bron Ceris, Pen y Bryn a Tŷ Canol ac ati. Oedi digon sydd angen yn Y Fachwen i edmygu'r golygfeydd godidog.

DEINIOLEN a CLWT Y BONT, DINORWIG a FACHWEN gan Idris Thomas, brodor o Ddinorwig ac un o Gynghorwyr ar Gyngor Cymuned LLanddeiniolen. Ysgrifennodd y cyfan ym Mawrth 2016.

Dyma ardal mwyaf lluosog o ran poblogaeth a gwasgaredig ei naws o fewn tiriogaeth Cyngor Cymuned Llanddeiniolen. Dyma pen uchaf ei thiriogaeth a thyfodd y lle yn sylweddol iawn yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hynny wrth i Chwarel Dinorwig ffynnu a datblygu i ddod yn Chwarel lechi agored fwya'r byd. Ni ellir sôn am y cymunedau uchod heb sôn am y Chwarel -hi roes enedigaeth iddynt a phan ddechreuodd dynion grafu wyneb mynydd yr Elidir ar ochr ardal Dinorwig ar raddfa eang yn 1788, trowyd y cerrig a ddeuai i'r golwg yn fara i Ddyffryn eang. Perthyn Chwarel Dinorwig i fyd y gwyrthiau sef y wyrth o dynnu'r garreg o grombil y mynydd a'i throi yn foddion cynhaliaeth i genedlaethau o drigolion oedd yn byw yn ei chysgod. Fel un a aned lled cae, yn llythrennol, o Chwarel Dinorwig, gallwn ei chyffwrdd bron yng nghymuned Pen Draw Dinorwig lle gwelais olau dydd a chlywn ei sŵn yn ddyddiol. Sŵn ergydion saethu'r Graig, sŵn Corn y Gwaith (amser galw i waith ac oddi wrth waith) sŵn traed sgidia hoelion mawr yr hogia bob bore a diwedd y pnawn a sŵn pwffian y trên bach gyda'r gyrrwr John Evans yn rhoi reid i mi pan yn llefnyn ar ei mynych daith o'r Allt Ddu yn Ninorwig i Ffiar Injian yn y Chwarel. Gwelwn y mwg yn y Chwarel, ynghyd â'r llwch difaol a ddeuai wrth dyllu'r Graig ac yn y siediau lu, a effeithiodd mor greulon fel y gwn yn iawn ar ddynion canol oed a hŷn gan dristhau aelwydydd, llenwi mynwentydd y fro, a gwneud bywyd yn hynod anodd. Do roedd yr ysfa am gyfoeth yn ddi-arbed, do difwynwyd a chreithwyd wyneb glas mynydd yr Elidir, do chwystrellwyd chwys a llafur dynol i'r eithaf ond crewyd pobol a'i chymdeithas Gymraeg nas gwelwyd yn hanes Cymru am dros ddau gan mlynedd a mwy. Cyfrannodd Chwarel Dinorwig yn gyfoethocach nag unrhyw ddiwydiant arall i'n diwylliant llenyddol Cymraeg. Mor bwysig yw i bawb heddiw wybod am Chwarel Dinorwig ac am y chwarelwyr-eu tlodi a'u dioddef, eu hwyl a'u canu, eu hargyhoeddiadau pendant a'u hegwyddorion cryf. I chwi ymwelwyr a ddaw i ymweld â Chwarel Dinorwig, yr hyn a deimlwch gyntaf yw'r modd y gwasgodd distawrwydd bellach ei fraich llethol am yr ardal. Daeth i ben rawd y Chwarel 47 mlynedd yn ôl gyda chnoc morthwyl yr arwerthwr ym 1969. Drama hir ydoedd ac fe gynnwys sawl golygfa,rhai o lwyddiant a llawenydd, ac eraill o dristwch, tlodi a thrychineb. Pan fyddwch yn troedio llwybrau'r Chwarel cadwch hyn oll mewn cof ac yn y gwynt main anadlwch y prysurdeb a fu ar ei phonciau a lleisiau ddoe yr hogia glew.

Gwybodaeth yma yn fuan...

Gwybodaeth yma yn fuan...

Gwybodaeth yma yn fuan...

Gwybodaeth yma yn fuan...