Polisiau / Rheolau

  1. Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor ar y Nos Fawrth gyntaf o’r Mis heblaw am ambell eithriad. Ni chynhelir cyfarfod yn ystod Mis Awst. Cynhelir y Cyfarfodydd yn ystafell Gymuned Ysgol Gymunedol Penisa’r-waun.
  2. Yn gyffredinol, cynhelir Cyfarfodydd y Cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg. Caniateir i aelodau’r cyhoedd wrando yng nghyfarfodydd y Cyngor, ond nid oes hawl ganddynt gymryd rhan. Pan fo angen, trefnir cyfieithydd wrth roi 10 diwrnod o rybudd i’r clerc.
  3. Torri gwair ar lwybrau cyhoeddus. Defnyddio cwmni lleol lle mae’n bosibl. Sicrhau bod gan yr ymgymerwyr yswiriant cyfrifoldeb cyhoeddus (Public Liability)
  4. Hysbysu Gwynedd o ddiffygion llwybrau/ffyrdd.
  5. Ystyried cyfrannu’n flynyddol i elusennau / mudiadau lleol.(oddi fewn i’r gymuned ond hefyd i fudiadau o’r tu allan sydd o fudd i’r ardal). Rhaid i’r mudiad ddanfon mantolen ariannol gyda’r cais. Ceisiadau i’w cyflwyno ond unwaith y flwyddyn cyn Medi’r 20fed. Bydd rhaid i bob cais gyflwyno tystiolaeth o dderbyniadau yn union a’r canllawiau a nodwyd wrth y cais o fewn 6 mis i’w dderbyn.
  6. Cyfrannu’n ariannol at grwpiau neu gorau o’r ardal sy’n llwyddiannus o Eisteddfod Sir yr Urdd i’r Genedlaethol neu i’r Eisteddfod Genedlaethol Fis Awst, os derbynnir cais.
  7. Cynnal cyfarfod blynyddol (Ebrill/Mai) i ddewis swyddogion. Fel arfer yr is-gadeirydd fydd Cadeirydd y flwyddyn ganlynol. Bydd cadeirydd mewn sedd am 2 flynedd pe dymunir.
  8. Pennu praesept blynyddol yn dilyn gosod y gyllideb ac yna dilyn y gyllideb yn chwarterol i wneud yn siŵr nad oes gorwariant.
  9. Ystyried ceisiadau am olau cyhoeddus ychwanegol.
  10. Meinciau a Llochesi fws. Unai eu hatgyweirio / adnewyddu, dibynnu ar y gost.
  11. Ystyrir ceisiadau cynllunio gan Gynghorydd y lleoliad mewn ymgynghoriad â’i gyd-aelodau. Trafodir ceisiadau yng nghyfarfodydd Y Cyngor. Ateb i Adran Gynllunio Gwynedd gyda gwrthwynebiad neu sylwadau.
  12. Cyhoeddi crynodeb misol o gofnodion cyfarfodydd yn “Eco’r Wyddfa”, “Llais Ogwan” ac ar Wefan y cyngor yn dilyn cymeradwyo'r Cofnodion.
  13. Trefnir is-bwyllgorau pan fo angen.
  14. Cworwm, presenoldeb a rheolau’r Cyngor - Gweithredir yn ôl y gyfraith a defnyddir canllawiau’r “The Society of Local Council Clerks”. Cyfetholir aelodau yn unol â rheolau Gwynedd, hysbysebir y sedd am gyfnod penodol.
  15. Gwahoddir siaradwyr ag arbenigedd i gyfarfod y Cyngor o bryd i’w gilydd, e.e. Yr Heddlu, Swyddogion Gwynedd, Peirianwyr First Hydro” ayb.
  16. Disgwylir i bob aelod o’r Cyngor fynychu hyfforddiant yn ôl y Cynllun Hyfforddiant.
  17. Mae’r Cyngor yn hybu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ond darperir cyfleoedd i ymuno ar lein drwy ddolen i’r aelodau.

Gweithdrefn Gwyno - cliciwch yma

Datganiad Bio Amrywiaeth - cliciwch yma