Brynrefail

image

Lleolir pentref bach Brynrefail nepell o ochor ogleddol Llyn Padarn. Mae Afon Rhythallt yn gadael y llyn yn y fan yma ac yn cwrdd a Afon Seiont mhellach i lawr ym Mhont Rhythallt, Llanrug.

Adeiladwyd priffordd sydd yn mynd heibio i'r pentref ac yn rhannu'r pentref 2 ochor i'r ffordd. Mae gwreiddiau y pentref yn ardal chwarel Dinorwig, ac felly tai teras sydd bennaf yn y pentref, lle'r adeiladwyd y tai ar gyfer gweithwyr oedd yn gweithio yn y chwarel lechi.

Ar un cyfnod, roedd yma Efail a adeiladwyd nôl yn 1776, ac mae'r adeilad dal yma heddiw, ond bellach wedi ei addasu yn fwthyn.

Roedd y pentref hefyd yn gartref i Ysgol Uwchradd Brynrefail cyn i'r ysgol symyd yn y chwedegau, i'w safle presennol yn Llanrug.

Yn 1990, penderfynwyd clirio y safle cyn adeiladu adeilad amlbwrpas “Y Caban” yn 2002. Ers ei agor yn 2004, gwelir caffi ynghyd a ystafelloedd cyfarfod sydd yn dyblu i fyny fel ystafelloedd i'r capel ynghyd a 13 o unedau busnes lleol.

Gwybodaeth yma yn fuan...

Gwybodaeth yma yn fuan...

Gwybodaeth yma yn fuan...

Gwybodaeth yma yn fuan...