Deiniolen a Clwt y Bont

image

Pentref ar chwâl dros chwe can troedfedd i fyny ar y llethrau moel rhwng Moel Rhiwen a Mynydd Elidir yw Deiniolen. Saif Eglwys y pentref sef Eglwys Crist LLandinorwig ar fryncyn a elwir Gwaun Gynfi (enw ar ysgol y pentref heddiw) a dyma'r fan mewn oes bell yn ôl yr ymladdwyd brwydr erwin a gwaedlyd rhwng y Cymry a'r Gwyddelod. Caswallon Lawhir oedd arweinydd y Cymry a Sirigi Wyddel oedd y Cadfridog Gwyddelig. Y Cymry a lwyddodd gan erlid y gelyn dros y Fenai hyd Gerrig y Gwyddyl, lle gorffenwyd y gyflafan. Dywedir fod enwau yng nghymdogaeth Deiniolen hyd heddiw megis Beddau y Milwyr a Chae'r Fynwent yn dyst i'r frwydr ac atgof o ryw drychineb o'r fath a geir yn yr hen rigwm -
"Clywyd cant o wragedd a phlant,
Yn cwynfan yng Ngwaun Gynfi."
Poblogaeth Deiniolen heddiw(yn cynnwys Dinorwig) yn ôl rhestr Etholwyr yn 2011 oedd 1,909.
Plwyf LLanddeiniolen oedd y plwyf gwreiddiol sef plwyf eithriadol o fawr a ymestynnai dros ddeng mil o erwau. Yna wrth i Chwarel Dinorwig ffynnu yn ystod hanner cyntaf y 19 ganrif yn enwedig y blynyddoedd rhwng 1820 i 1845, gwelwyd twf aruthrol yn y pentrefi newydd (megis Deiniolen a chymuned Clwt y Bont) Codwyd llu o dai ac addoldai ac wrth sôn am addoldai yr enw Ebenezer sef enw ar Eglwys Gynulleidfaol(Annibynwyr)a adeiladwyd yn 1823, roddwyd i'r pentref yr adwaenwn heddiw fel Deiniolen. Gyda llaw cyfeirir at y pentref fel Llanbabo hefyd a hynny oherwydd daeth rhai o Lanbabo ym Môn yma i fyw oherwydd gwaith yn y Chwarel. Hugh Robert Jones (1894-1930)-
"Y gŵr o Ddeiniolen mor welw ei wedd"
y cyfeiriodd Dafydd Iwan ato yn ei gân "Chwe Chant a Naw" a fynnodd newid enw pentre'i febyd o Ebeneser i'r enw Deiniolen. Ef oedd un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru (1924) gan ddod yn drefnydd cyntaf (1926-30). Bu hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithas Gydweithredol ei bentref ac ef sefydlodd y gangen gyntaf o Urdd Gobaith Cymru yn Neiniolen. Ewch i weld ei gartref yn 8 Tai Gweledfa.
Yn ôl at yr adeiladu tai. Gwelir effaith glir y cynnydd hwn yn 1868 pan gofnodwyd fod 100 o dai yng Nghlwt y Bont a 400 o drigolion, tra yn Ebenezer (Deiniolen) yr oedd 170 o dai a thros 700 o drigolion. O fewn 34 mlynedd codwyd 6 o addoldai-Ebenezer (1823) Cefnywaen (1838) Tabernacl (1862) Disgwylfa 1864) Libanus (1877) ac Eglwys LLandinorwig (1857) Os newidiodd enw'r pentref newidiodd enw'r Seindorf pentrefol adnabyddus o dro i dro yn ogystal. Tybir mai tua 1835 y sefydlwyd Band cyntaf Llandinorwig yn cael ei ddilyn gan Fand Ebeneser, yna yn 1904 fe'i galwyd yn Fand Cynfi ac ar derfyn diwedd yr Ail Ryfel Byd (1945) Band Deiniolen a'r Cylch ydoedd a heddiw Seindorf Arian Deiniolen. Mae'r cwt Band modern sef Yr Hen Felin yn werth ei weld a chewch ddysgu am ei hanes drwy gyfrwng ei archif drwy lun ac ysgrifen sydd yno. Ewch draw ar noson bractis i glywed y dechreuwyr, yr ifanc, a'r Band mawr wrthi (tua cant i gyd)-yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda llaw ffurfiwyd "band chwaral" sef y "Vaynol Brass Band" tua 1883 ond byr fu ei fodolaeth ac mewn adroddiad y flwyddyn honno mynegwyd mai ei arwyddair oedd "chwythwn yn bur a chwaethus"- dyna wnaeth Band Deiniolen trwy gydol ei gyfnod hir a pharhaed felly. Bu tair ysgol yn y pentref sef Ysgol yr Eglwys (Llandinorwig) a gaewyd yn 1964 ar ôl canrif a mwy; yr oedd ysgol arall sef Ysgol y Cyngor fel y'i gelwid yng Nghlwt y Bont ac wrth gwrs Ysgol Gwaun Gynfi yr ysgol bresennol a agorwyd yn 1927 gyda 160 o ddisgyblion o'i mewn ac mae sglein ar y dysgu. Mae Deiniolen a Chlwt y Bont wedi magu llu o gantorion, llefarwyr, cerddorion, beirdd, llenorion, dramodwyr, arlunwyr, gweinidogion ac offeiriaid, athrawon, cyflwynwyr radio a theledu, newyddiadurwyr, heb anghofio goreuon yn y byd pêl droed a beicio a chwaraeon eraill. Heddiw fel ddoe ceir cyfle i ganu mewn partion ag ati ac mae mynd mawr ar yr Eisteddfod flynyddol. Cofir am Gwenlyn Parry y dramodydd yn enw stad o dai Bro Gwenlyn yn Ffordd Deiniol. Heddiw ceir llyfrgell, dwy siop, caffi, dau dafarn a lleoedd i drwsio ceir. Ceir Gŵyl bentrefol lewyrchus bob Haf a chae pêl droed gwerth chwarae arno a chlwb snwcer yn llawn talent fel y timau dartiau,y cymdeithasau Llenyddol a Chlwb Bingo diwyd sy'n cyfrannu'n hael i achosion pentrefol. Heb anghofio y ddau Addoldy sydd ar ôl (ceir hanes llawn Canrif a hanner Eglwys LLandinorwig yn 2007 yn y llyfr "Gwynfyd Gwaun Gynfi" a argraffwyd gan Wasg y Bwthyn) Ysgol Gwaun Gynfi ac adeilad Meithrin ac mae adeilad Tŷ Elidir ynghanol y pentref yn gartref i weithgareddau amrywiol Antur Fachwen. Dewch draw am dro,parciwch y car a cherddwch o amgylch. I mi o Ddinorwig, "pentra" oedd Deiniolen -ie pentra Llanbabo ac yma bellach y dychwelais.

 

DEINIOLEN a CLWT Y BONT, DINORWIG a FACHWEN gan Idris Thomas, brodor o Ddinorwig ac un o Gynghorwyr ar Gyngor Cymuned LLanddeiniolen. Ysgrifennodd y cyfan ym Mawrth 2016.

Dyma ardal mwyaf lluosog o ran poblogaeth a gwasgaredig ei naws o fewn tiriogaeth Cyngor Cymuned Llanddeiniolen. Dyma pen uchaf ei thiriogaeth a thyfodd y lle yn sylweddol iawn yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hynny wrth i Chwarel Dinorwig ffynnu a datblygu i ddod yn Chwarel lechi agored fwya'r byd. Ni ellir sôn am y cymunedau uchod heb sôn am y Chwarel -hi roes enedigaeth iddynt a phan ddechreuodd dynion grafu wyneb mynydd yr Elidir ar ochr ardal Dinorwig ar raddfa eang yn 1788, trowyd y cerrig a ddeuai i'r golwg yn fara i Ddyffryn eang. Perthyn Chwarel Dinorwig i fyd y gwyrthiau sef y wyrth o dynnu'r garreg o grombil y mynydd a'i throi yn foddion cynhaliaeth i genedlaethau o drigolion oedd yn byw yn ei chysgod. Fel un a aned lled cae, yn llythrennol, o Chwarel Dinorwig, gallwn ei chyffwrdd bron yng nghymuned Pen Draw Dinorwig lle gwelais olau dydd a chlywn ei sŵn yn ddyddiol. Sŵn ergydion saethu'r Graig, sŵn Corn y Gwaith (amser galw i waith ac oddi wrth waith) sŵn traed sgidia hoelion mawr yr hogia bob bore a diwedd y pnawn a sŵn pwffian y trên bach gyda'r gyrrwr John Evans yn rhoi reid i mi pan yn llefnyn ar ei mynych daith o'r Allt Ddu yn Ninorwig i Ffiar Injian yn y Chwarel. Gwelwn y mwg yn y Chwarel, ynghyd â'r llwch difaol a ddeuai wrth dyllu'r Graig ac yn y siediau lu, a effeithiodd mor greulon fel y gwn yn iawn ar ddynion canol oed a hŷn gan dristhau aelwydydd, llenwi mynwentydd y fro, a gwneud bywyd yn hynod anodd. Do roedd yr ysfa am gyfoeth yn ddi-arbed, do difwynwyd a chreithwyd wyneb glas mynydd yr Elidir, do chwystrellwyd chwys a llafur dynol i'r eithaf ond crewyd pobol a'i chymdeithas Gymraeg nas gwelwyd yn hanes Cymru am dros ddau gan mlynedd a mwy. Cyfrannodd Chwarel Dinorwig yn gyfoethocach nag unrhyw ddiwydiant arall i'n diwylliant llenyddol Cymraeg. Mor bwysig yw i bawb heddiw wybod am Chwarel Dinorwig ac am y chwarelwyr-eu tlodi a'u dioddef, eu hwyl a'u canu, eu hargyhoeddiadau pendant a'u hegwyddorion cryf. I chwi ymwelwyr a ddaw i ymweld â Chwarel Dinorwig, yr hyn a deimlwch gyntaf yw'r modd y gwasgodd distawrwydd bellach ei fraich llethol am yr ardal. Daeth i ben rawd y Chwarel 47 mlynedd yn ôl gyda chnoc morthwyl yr arwerthwr ym 1969. Drama hir ydoedd ac fe gynnwys sawl golygfa,rhai o lwyddiant a llawenydd, ac eraill o dristwch, tlodi a thrychineb. Pan fyddwch yn troedio llwybrau'r Chwarel cadwch hyn oll mewn cof ac yn y gwynt main anadlwch y prysurdeb a fu ar ei phonciau a lleisiau ddoe yr hogia glew.

Gwybodaeth yma yn fuan...

Gwybodaeth yma yn fuan...<

Sedd wag achlysurol - Ward Deiniolen - cliciwch yma

Ysgol Gwaun Gynfi

I weld eu gwefan - cliciwch yma

Eco’r Wyddfa – Ebrill 2016 - cliciwch yma

Eco’r Wyddfa – Mawrth 2016 - cliciwch yma